Dychmygu Iaith

Mererid Hopwood author

Format:Hardback

Publisher:University of Wales Press

Published:15th Jul '22

Should be back in stock very soon

Dychmygu Iaith cover

Mae astudiaethau niferus wedi archwilio delweddaeth beirdd drwy ac mewn iaith, hynny yw, y modd y defnyddiant iaith i greu delweddau, ond nid felly’r ddelweddaeth am iaith ei hunan. Nod y llyfr hwn yw craffu ar sut y mae casgliad o feirdd o bob cwr o’r byd wedi dychmygu a delweddu iaith, a hynny er mwyn ceisio goleuni newydd ar y cwestiwn hynafol: ‘Beth yw iaith?’ Gan mai yng nghyd-destun dathlu canmlwyddiant Gwasg Prifysgol Cymru yr ysgogwyd y llyfr, dewiswyd y testun gan ei fod yn gydnaws â dau o brif themâu cyhoeddiadau’r Wasg. Ar y naill law, mae'n dyfnhau ein dealltwriaeth o ddiwylliant ac iaith unigryw Cymru, ac ar y llall ehangu ein gwerthfawrogiad o ddiwylliant Ewrop a’r byd. Mewn cyfuniad unigryw sy’n cwmpasu esiamplau o gerddi mewn ieithoedd dan fygythiad a rhai prif ffrwd, dyma lyfr sy’n ein hannog i ystyried o’r newydd gyfrwng yr ydym yn ei ddefnyddio’n feunyddiol.

ISBN: 9781786839190

Dimensions: unknown

Weight: unknown

136 pages