Griffith Davies

Arloeswr a Chymwynaswr

Haydn E Edwards author

Format:Paperback

Publisher:University of Wales Press

Published:15th Apr '23

Currently unavailable, and unfortunately no date known when it will be back

Griffith Davies cover

Dyma gyfrol sy’n croniclo bywyd a gwaith Griffith Davies (1788–1855), o’i blentyndod tlawd yn ardal chwareli Arfon i’w waith fel sefydlydd ysgolion mathemateg yn Llundain cyn gosod sylfaen i’r proffesiwn actiwari. Tri mis yn unig o addysg ffurfiol a dderbyniodd Davies, a dyna pryd y sylweddolwyd fod ganddo allu rhyfeddol mewn mathemateg. Mentrodd i Lundain, ac ar ôl blynyddoedd wedi ymroi i hunan ddysgu cyhoeddodd lyfrau mewn mathemateg, ac yn y pen draw fe’i penodwyd yn brif actiwari i gwmni yswiriant y Guardian yn y ddinas. Wrth i’w yrfa ddatblygu, daeth yn Gymrawd o’r Gymdeithas Frenhinol a derbyniodd glod ac anrhydeddau am ei waith. Bu’n weithgar ym mywyd Cymraeg Llundain gan sefydlu cyfres o ddarlithoedd gwyddonol yn ei famiaith, ac ymgyrchodd yn llwyddiannus dros hawliau tyddynwyr bro ei febyd a thros addysg i’w gyd-wladwyr. Mae hanes bywyd Griffith Davies yn stori sy’n ysbrydoli.

ISBN: 9781837720316

Dimensions: unknown

Weight: unknown

232 pages