Pijin
Alys Conran author Sian Northey translator
Format:Paperback
Publisher:Parthian Books
Published:24th May '16
Should be back in stock very soon

An incongruous ice-cream van lurches up into the Welsh hills through the hail, pursued by a boy and girl who chase it into their own dark make-believe world, and unfurl in their compelling voices a tale which ultimately breaks out of childhood and echoes across the years. Sian Northey's Welsh translation of Pigeon.
An incongruous ice-cream van lurches up into the Welsh hills through the hail, pursued by a boy and girl who chase it into their own dark make-believe world, and unfurl in their compelling voices a tale which ultimately breaks out of childhood and echoes across the years. Pigeon is the tragic, occasionally hilarious and ultimately intense story of a childhood friendship and how it's torn apart, a story of guilt, silence and the loss of innocence, and a story about the kind of love which may survive it all. • This book will be simultaneously released in English (ISBN 978-1-910901-23-6) • Alys's fiction, poetry, and translations have been placed in several competitions, including the Bristol Short Story Prize and The Manchester Fiction Prize. • Alys is being pitched for an event at the 2016 Edinburgh Festival • This title is one of the eight comprising Parthian's ambitious Parthian Europa Carnivale writing in translation project -- Cyhoeddwr: Parthian Books
Lleolir Pijin yn un o ardaloedd chwarelyddol gogledd Cymru; ardal brydferth ond garw, a dyna’r ddeuoliaeth sy’n amlwg drwy’r stori. Hanes cyfeillgarwch Pijin a Iola sydd yma, wedi ei adrodd yn eu geiriau nhw. Rydyn ni’n gweld cyfeillgarwch y ddau blentyn yn datblygu, a’r ddau yn dibynnu fwyfwy ar ei gilydd, nes i gyfres o ddigwyddiadau chwalu eu byd. Mae gan y ddau gymeriad leisiau pendant iawn. A’r hyn sy’n drawiadol yn rhan gynta’r nofel yw sut rydyn ni’n gweld y byd trwy eu llygaid nhw. Ceir cymysgedd o ddiniweidrwydd a drygioni, a datgelir gwirioneddau mawr mewn sylwadau ffwrdd-â-hi. Mae clywed am Iola yn eistedd yn y capel yn disgwyl i Dduw gyrraedd yn cyfleu naws y lle i’r dim, tra bod y disgrifiad o ddwylo Adrian, llys-dad newydd Pijin, fel “dwylo dyn oedd yn hoffi cyfyngu ar bethau” mor syml ac eto’n dweud cyfrolau am ei gymeriad. Mae geiriau, a phwysigrwydd geiriau, yn thema drwyddi draw; gallu geiriau i greu byd arall i ymgolli ynddo ond hefyd fel modd o raffu celwyddau a brifo pobl. Mae diffyg geiriau yr un mor drawiadol, yn arwydd bod rhywbeth o’i le: mae yna rywbeth arswydus am y modd mae cyflwr meddyliol mam Pijin yn dirywio dan ddylanwad Adrian, hyd nes nad oes ganddi eiriau ar ôl. Ac yn hwyrach yn y nofel mae dieithrwch cynyddol Pijin i’w weld wrth iddo fynnu troi at y Saesneg gyda Iola. Rhywbeth yn perthyn i’w orffennol yw’r Gymraeg; trwy’r Saesneg mae’n creu delwedd arall ohono’i hun ac yn cosbi ei hen ffrind. Mae’r nofel yn llawn cymeriadau difyr, pob un â’i gymhlethdodau. Does neb yn perthyn, rywsut; neb yn cael ei dderbyn yn llwyr yn y gymdeithas glos y maen nhw’n byw ynddi. Mae’n dorcalonnus, er y doniolwch, ddarllen am Gwyn, y dyn hufen iâ, yn blodeuo wedi iddo golli ei gartref a’i eiddo, gan fod hynny’n galluogi iddo ddianc rhag dylanwad a disgwyliadau ei fam. Mae’n teimlo’n rhyfedd defnyddio’r gair 'swynol' i ddisgrifio nofel ac ynddi drais, cam-drin a dioddefaint, ond dyna’r gair sy’n disgrifio’r nofel orau. Ac mae cyfieithiad Sian Northey yn hyfryd. Fe wnes i ystyried cymryd golwg ar y llyfr yn y Saesneg er mwyn cymharu ambell beth, ond fe fyddai hynny’n sbwylio’r mwynhad. -- Cerian Arianrhod @ www.gwales.com
ISBN: 9781910901359
Dimensions: unknown
Weight: unknown
264 pages