O Ffrwyth y Gangen Hon
Amrywiol author Nia Morais editor
Format:Paperback
Publisher:Cyhoeddiadau Barddas
Published:6th Mar '25
Should be back in stock very soon

Poems about joy - this was the open call to "female poets from every background" about a year ago. The anthology has bore its fruits, with contributions from familiar and brand new voices. From tender poems to noisy and funny ones, you'll get to taste a range of poetry in this volume - combined with the imaginative artwork of Myths n Tits - to celebrate womanhood in its entirety.
Cyn hyd yn oed mentro i ddarllen, rhaid cydnabod bod hon ymhlith un o’r cyfrolau harddaf i mi ei gweld ers tro byd. Yn y flodeugerdd arbennig hon o gerddi gan fenywod, mae darluniau trawiadol Myths n Tits yn denu’r llygad o’r cychwyn cyntaf, ond wrth gwrs, y farddoniaeth rhwng dau glawr sydd wir yn dal ei gafael gyda’r gyfrol hon. Benthycwyd ei theitl o gerdd o eiddo Cranogwen, bardd o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg sydd wedi datblygu’n eicon LHDTC+ a ffeminyddol erbyn hyn. Cerdd o ddiolch yw’r gwreiddiol, i fam y bardd, a drwyddi draw yn y gyfrol mae detholiad hynod grefftus Nia Morais o gerddi’r cyfranwyr yn dathlu olyniaeth a chwaeroliaeth mewn amryw ffyrdd gwreiddiol a gwefreiddiol. Fe welwn, yn ei steil byrlymus arferol, Elinor Wyn Reynolds yn diolch i’r ‘Mam-geezers’ am y pethau bach sy’n gwneud gwahaniaeth mawr; y bwydo, gwrando, bod yn gefn. Yn yr un modd, mae llinell olaf ‘Pe Bawn i’n Goeden’ gan Megan Lloyd yn blaen ond yn bwrpasol – ‘diolch, Nain’ – ac yn taro tant wedi’r pwyslais ar feithrin tyfiant a chynhaliaeth – ‘a gwn, er gwaetha’r amodau, byddaf yn goeden rhyw ddydd’. Cynilach fyth yw cerdd Sian Northey, ‘Rwy’n un o genhedlaeth Jones’, sy’n sôn am y ‘tân gwyllt’ newydd ym mywyd y ferch sy’n mynd drwy’r menopos, y cyfnod hwnnw o hyder newydd, annisgwyl, ‘Lle cei ddweud dy ddweud / ac anwybyddu’r diawled / fu’n dy blagio ’rioed’. Mae yna hefyd nifer o gerddi sy’n clodfori arwresau hanesyddol, ac heb os, mae perthyn i linach o ferched yn rhan bwysig o neges nifer o gerddi’r gyfrol, ein bod ni fel merched a menywod yma o hyd, serch camweddau’r gorffennol, ac rydym yma yn sgil y rhai sydd wedi arwain y ffordd. Cyhoeddwyd blodeugerddi cyffelyb o’r blaen, wrth gwrs: Hel Dail Gwyrdd yn 1985 ac O’r Iawn Ryw yn 1992, y ddwy gyfrol dan olygyddiaeth Menna Elfyn – a bydd rhai’n holi a oes angen casgliad arall o’r fath gan ferched, heddiw yn 2025? Fodd bynnag, rhydd Morais fel golygydd reswm da i amlygu’r disgwyliadau afrealistig a’r heriau sy’n parhau i wynebu merched hyd heddiw yn ei golygyddol. Fodd bynnag, yr hyn a’m trawyd gyda’r gyfrol hon yw’r gorfoledd pur sy’n rhedeg drwyddi draw, o gydnabod heriau megis bod yn fam, bod yn ferch ifanc neu’n ferch oed arbennig, a chynigiwyd gofod diogel i feirdd newydd a phrofiadol gyfrannu, a chreu blodeugerdd sy’n disgleirio drwyddi draw. -- Miriam Elin Jones @ www.gwales.com
ISBN: 9781911584902
Dimensions: 210mm x 155mm x 9mm
Weight: unknown
120 pages