Mae
Format:Paperback
Publisher:Cyhoeddiadau Barddas
Published:9th Jul '25
Should be back in stock very soon

Dyma ail gyfrol o gerddi gan y Prifardd Mererid Hopwood. Yn y casgliad hwn cawn flas ar ddeng mlynedd o ganu caeth a rhydd ers cyhoeddi Nes Draw (Gomer, 2015). Rhwng y cloriau mae cerddi am heddwch, anghyfiawnder, yr amgylchfyd, bod yn fam ac yn fam-gu - a llawer mwy.
Mae'r cyfan yn troi ar echel y gerdd Newid y Drefn sy'n cloi gyda'r geiriau cofiadwy 'a threch nag anobaith troi dy gefn, yw gwybod dy galon: rhaid newid y drefn'.
Meddai Gareth Bonello bod yma '[g]asgliad cain sy'n troelli'n dyner o amgylch craidd ein bod.'
Dywedodd Manon Steffan Ros bod y 'byd i gyd o fewn cloriau'r gyfrol bwerus hon', a bod y cerddi 'yn ddewr yn eu dweud a'u symlrwydd.'
Cafodd Ceri Wyn Jones flas garw ar y gyfrol hefyd, gan ddweud bod yma '[g]erddi sy'n credu yng ngallu iaith i ddod â phobol at ei gilydd a pheri iddyn nhw ddychmygu gwell byd.'
Sut i grynhoi Mae, felly? Llwyddodd Gwenno Saunders i daro'r hoelen ar ei phen. Meddai:'Rhoddir y gyfrol hon y teimlad o ymlwybro'n ysgafndroed i lawr at gwm wedi'i greu o gerddi, a'n tywys yn garedig tuag at galon ein seice cenedlaethol, at ddyfnderoedd yr anymwybod Cymreig – lle cynnes, cysurlon a chadarn, llawn cariad.'
-- Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau BarISBN: 9781911584964
Dimensions: 190mm x 128mm x 9mm
Weight: unknown
127 pages