Mali a'r Môr Stormus
Malachy Doyle author Mary Jones translator Andy Whitsun illustrator
Format:Paperback
Publisher:Graffeg Limited
Published:12th Jun '18
Currently unavailable, our supplier has not provided us a restock date

Mae Mali'n dihuno un bore i ganfod bod y tŷ yn wag. Aeth ei thad ar daith bysgota ond nid yw wedi dychwelyd. Mae Mali'n casglu ei thrysorau mwyaf gwerthfawr - loced, llun o'i thad a'i hoff ddol - ac yn mynd lawr i'r harbwr i'w cyflwyno yn rhodd i'r môr yn gyfnewid am fywyd ei thad. Stori am gariad, aberth a gobaith. Addasiad Cymraeg Mary Jones o Molly and the Stormy Sea.
Heb os nac oni bai, fy hoff beth am y gyfrol yma i blant ydy’r darluniau. Mae’r morfil fel petai ganddo wyneb dynol, llawn emosiwn, mae’r cymeriadau yn gwisgo dillad lliwgar ac mae nodweddion eu hwynebau yn gartwnaidd-gomic a llawn cymeriad. Dw i'n meddwl y byddai’r clawr yn apelio at gynulleidfa ifanc wrth iddyn nhw ddewis o’r silff lyfrau. Mae hon yn stori am ddau blentyn sy’n mynd i lawr at y traeth ar ôl storm i chwilio am unrhyw beth diddorol allai fod wedi golchi i'r lan dros nos. Ond pan maen nhw’n cyrraedd, maen nhw’n gweld morfil anferth yn gorwedd ar y traeth. Wedyn cawn hanes y gymuned yn cydweithio i gadw’r morfil yn wlyb ac yn oer hyd nes y daw’r llanw i mewn yn ddiweddarach. Mae’r plant yn aros ar ddi-hun trwy’r nos, sy’n syniad deniadol iawn i blant bach, felly dw i’n tybio y bydd yn plesio’r rhai sy’n darllen y gyfrol yma. Mae Mali, y ferch fach, yn cyfansoddi cân fach i gysuro’r morfil a’i gadw’n dawel hyd nes ei fod yn cael ei achub. Fedra i ddim dweud yn iawn at ba oed na lefel darllen y mae’r llyfr yma wedi ei anelu. O bryd i'w gilydd mae’r eirfa ychydig yn ffurfiol (e.e. ‘cyhyd’, ‘aiff’), a allai fod yn anodd neu’n ddiarth i ddarllenwyr ifanc iawn. Ond mae’r llinell storïol ei hun yn awgrymu ei fod ar gyfer plant bach. Serch hynny, mae lle i gyflwyno geirfa newydd o bob cywair i blant ifanc yn ein llyfrau, mae’n siŵr, ac nid oes raid gorsymleiddio ar gyfer plant bach drwy’r amser. Roeddwn i'n hoff iawn o naws cyffredinol y gyfrol. Mae hi’n stori, yn ei ffordd gynnil ei hunan, sy’n dysgu pwysigrwydd bod yn ofalgar o eraill, gweithio fel tîm ac fel rhan o’r gymuned ac i ofalu am fyd natur. Mae’r tudalennau yn ddeniadol dros ben gyda’r darluniau arbennig o fanwl a hardd ac mae’r gwaith celf yn dod yr un mor bwysig â’r stori, wrth i’r lliw a lluniau lenwi’r dudalen gyfan. Dyma stori hoffus am y cyfeillgarwch a’r ddealltwriaeth sy’n datblygu heb eiriau rhwng Mali a’r morfil a dw i’n siŵr y bydd yn dod yn ffefryn o blith y straeon amser gwely mewn sawl cartref. -- Mererid Haf @ www.gwales.com
ISBN: 9781912050123
Dimensions: unknown
Weight: unknown
36 pages