Happy New Year! Get 10% off all books on our website throughout January! Discount will be applied automatically at checkout.

Geiriau Diflanedig

Mererid Hopwood author Mererid Hopwood translator Jackie Morris illustrator

Format:Hardback

Publisher:Graffeg Limited

Published:25th Sep '19

Should be back in stock very soon

This hardback is available in another edition too:

Geiriau Diflanedig cover

As we become estranged from the natural world around us, we may lose the language of that world. Mererid Hopwood's lyrical Welsh interpretion of Macfarlane's acrostic poems, together with Jackie Morris' stunning illustrations, make this a celebration of nature.

Cyfrol hardd o ran diwyg a hardd o ran cynnwys yw Geiriau Diflanedig, addasiad Mererid Hopwood o gyfrol Robert Macfarlane o gerddi acrostig, The Lost Words, a enillodd wobr Books are my Bag ac a enwyd yn Llyfr yr Ŵyl yng Ngŵyl y Gelli yn 2017. Cyrhaeddodd y gyfrol honno hefyd restr fer y Wainwright Prize for Nature Writing yn 2018. Cymaint yw bri’r gyfrol Gymraeg yn ogystal nes ysgogi ymgyrch ariannu torfol lwyddiannus yn Awst 2019 er mwyn sicrhau bod copi o’r gyfrol ym mhob ysgol uwchradd yng Nghymru, a da hynny. Dathliad sydd yma o fyd natur ac o’r holl eiriau sy’n gysylltiedig â phlentyndod chwilfrydig yn yr awyr agored. A byd natur bellach o dan fygythiad, mae peryg hefyd o golli rhai o’r enwau gwreiddiol hyn ar rai o ryfeddodau harddaf byd natur. O’r cychwyn cyntaf mae arddull hudolus Mererid Hopwood yn swyno’r darllenydd: ‘Unwaith, amser maith yn ôl, dechreuodd ambell air ddiflannu o enau plant bychain …’ Disgrifir sut gall y gyfrol ‘ddwyn yn ôl yr hen eiriau coll a’u cael eto yn loyw yng ngolau cannwyll ein llygad ac yn flasus ar flaen ein tafod.’ Wrth fodio’r gyfrol ceir yn sicr gerddi ‘blasus’ sydd hefyd yn swynol i’r glust, ynghyd â darluniau sy’n cyd-fynd â’r geiriau ac yn wledd i’r llygad. Rhaid cydnabod dawn aruthrol Jackie Morris, gan iddi greu darluniau hynod hardd a byw iawn. Mae’r darluniau’n asio’n arbennig â’r cerddi ac yn ychwanegu at y dweud. Does dim syndod i’r gyfrol ennill medal CILIP Kate Greenaway – gwobr a sefydlwyd yn 1955 i gydnabod dylunio nodedig mewn llyfrau i blant. O ran y cerddi eu hunain, ceir defnydd cyson o gyflythrennu ac odli, nodweddion sy’n sicr o ddenu sylw darllenwyr o bob oedran. Mwynheais y cyflythrennu’n arbennig yn y gerdd ‘crychydd’: ‘Cynefin crychydd y coesau cam yw hwn’; a’r odl hynod effeithiol yn ‘dant y llew’: ‘Tic-toc, petalau cloc, ffedog yr ysgall – ffroc’. At hynny, arhosodd tristwch ‘ehedydd’ yn y cof. Gellid dadlau mai llyfr llun i blant sy’n addas ar gyfer oedolion yn bennaf yw Geiriau Diflanedig. Hynny yw, llyfr hynod gain, o faint sylweddol, y byddai plentyn ar ei ben ei hun, dros amser, yn debygol o’i ddifetha, ond un y gall plentyn ei fwynhau yng nghwmni oedolyn. Mae ceinder y dweud yn sicrhau y gellid darllen y gyfrol hon i blentyn gweddol ifanc er mwyn mwynhau’r rhythmau a’r arddull ddisglair. Fe wnes innau’n sicr fwynhau darllen y cerddi’n uchel. Mae’n gyfrol werth ei chael! -- Rhiannon Salisbury @ www.gwales.com

  • Winner of The Beautiful Book Award 2017

ISBN: 9781913134617

Dimensions: 368mm x 270mm x 20mm

Weight: unknown

130 pages