Y Daith Ydi Adra
Stori Gŵr Ar Y Ffin
Format:Hardback
Publisher:Parthian Books
Published:1st May '21
Should be back in stock very soon

Sian Northey's Welsh translation of the memoir of John Sam Jones who writes of a life lived on the edge. It's a story of journeys and realisation, of acceptance and joy. From a boyhood on the coast of Wales to a traumatic period as an undergraduate in Aberystwyth, and on to a scholarship at Berkley on the San Francisco Bay as the AIDS epidemic began to take hold.
“Roeddwn am fyw yn rhywle heblaw’r cysgodion” dywed John Sam Jones am ei benderfyniad i ‘ddad-ddysgu’ yr hyn roedd wedi’i gymryd yn ganiataol dros flynyddoedd ei blentyndod a’i ieuenctid am ryw a rhywioldeb. Yn y gyfrol onest, dyner hon, rhannwn daith un dyn i ddod i’w adnabod a’i dderbyn ei hun – taith droellog a phoenus ar adegau, ac un sy’n cynnig darlun anghyfforddus o agweddau cymdeithasol sydd wedi achosi dioddefaint i gynifer o bobl, ac sy’n dal i wneud hynny i lawer, gwaetha’r modd. Cyflwynir stori John mewn cyfres o benodau sy’n ymdrin â chyfnodau gwahanol yn ei fywyd. Yn ffrâm i’r hanes mae ei fywyd yn yr Almaen yn dilyn penderfyniad John a’i ŵr, Jupp, o fewn dyddiau i refferendwm Brexit, y byddent yn gadael eu cartref yn y Bermo a symud i fyw i Effeld yn yr Almaen, i’r pentref lle magwyd Jupp, ar y ffin â’r Iseldiroedd. Doedd sylweddoli ei fod yn hoyw ddim yn brofiad hawdd i fachgen sensitif a myfyrgar yn nhref fach y Bermo hanner can mlynedd a mwy yn ôl. Yn ddyn ifanc aeth John ati i frwydro yn erbyn ei natur, ac mae’r disgrifiad o’r Therapi Anghymell Sioc Drydanol a gafodd yn Ninbych yn dangos cymaint oedd ei awydd i fod yn ‘normal’, heb “y cywilydd, a’r gwarth ar fy nheulu” oedd yn ei ddinistrio. Mae’n anodd credu bod y fath driniaeth farbaraidd ar gael mor eang mor ddiweddar, ac mae’n anhygoel ei bod yn dal yn gyfreithlon yn y wlad hon hyd heddiw. Erbyn i John gyrraedd Prifysgol Berkeley yng Nghaliffornia yn bump ar hugain oed, ar ysgoloriaeth gan Gyngor Eglwysi’r Byd i ymchwilio a myfyrio yn ddiwinyddol am y profiad lesbiaidd a hoyw o’r Eglwys, roedd clefyd AIDS yn dechrau ymddangos. Treuliodd lawer o amser yn gofalu am ddynion ifanc San Francisco yn eu gwaeledd a'u cysuro. Dyma ddechrau ei ymwneud â gwaith ar HIV – yn wir, ar ôl ymddangos ar Y Byd ar Bedwar ar S4C, am flynyddoedd byddai’n cael ei adnabod fel ‘y dyn yn y rhaglen AIDS’, a does dim amheuaeth bod y maes wedi elwa o gael unigolyn mor feddylgar ac ymroddgar yn gweithio ynddo. Ceir trafodaeth drwy’r gyfrol am y gwrthdaro a’r cyferbyniadau mewnol ac allanol rhwng rhywioldeb a chrefydd – yr awydd i gael ei dderbyn yn llawn gan yr Eglwys heb orfod cuddio ei hunaniaeth, ond hefyd y teimlad bod rhaid iddo guddio ei rywioldeb i sicrhau swydd caplan yn Lerpwl, a’r penderfyniad i beidio â mynd i’r offeiriadaeth. Mae’n disgrifio cyfnodau o agosáu a phellhau oddi wrth yr eglwys, ond byth oddi wrth ei ffydd sy’n gynhaliaeth barhaus iddo. Er iddo weini tymor yn Faer tref y Bermo, nid dyn sefydliadau yw John Sam Jones ond yn hytrach dyn o argyhoeddiad, gyda gwirionedd a gonestrwydd yn bwysicach na rheolau a defod. Er bod darnau o’r gyfrol yn sôn am brofiadau anodd a chyfnodau tywyll, mae yma hiwmor ac ysgafnder hefyd, fel y plismon chwareus mewn protest yn San Fransisco, a cheir disgrifiadau cynnes o bobl a pherthnasau a fu’n bwysig i John dros y blynyddoedd. Mae’r cyfan wedi’i wau at ei gilydd yn gelfydd, gyda chyfieithiad campus Sian Northey yn ychwanegu at bleser y darllen. Dyma gyfrol am ddyn sydd wedi torri ei gŵys ei hun ac sydd yn y pen draw wedi dod o hyd i’w heimat, ei ‘adra’. Heddiw, dywed, mae yntau a Jupp yn mwynhau eu golygfa yn Effeld. “Yfory, neu ryw yfory arall – pwy a ŵyr?” Ie, y daith ydi adra, a diolch am gael ei rhannu. -- Catrin Beard @ www.gwales.com
ISBN: 9781913640453
Dimensions: unknown
Weight: unknown
200 pages