And I Hear Dragons/Ac Rwy’n Clywed Dreigiau

Eric Heyman illustrator Hanan Issa editor

Format:Paperback

Publisher:Firefly Press Ltd

Published:30th May '24

Should be back in stock very soon

And I Hear Dragons/Ac Rwy’n Clywed Dreigiau cover

The facing pages English/ Welsh bilingual edition of the ground-breaking new anthology from diverse Welsh writers aimed at children aged between eight and twelve.

And I Hear Dragon, explores the concept of identity, and Hanan has written a poem of the same name that ʻcelebrates the children of Wales as ferociously brave mythical beastsʼ, taking on discrimination, pollution and more, and upholding Walesʼ tradition of croesawgar (welcoming).

Participating poets:

Wales Children’s Laureate Alex Wharton, Angela Hui, Bethany Handley, Casi Wyn, Durre Shahwar, E.L. Norry, Emma Smith Barton, Eric Ngalle Charles, Grug Muse, Hafsah, Hanan Issa, Iestyn Tyne, Ifor ap Glyn, Jaffrin, Jessica Dunrod, Joshua Jones, Kandace Siobhan Walker, Marvin Thompson, Mari Ellis Dunning, Marvin Thompson, Mererid Hopwood, Nia Morais, Rebecca Parfitt, Rhiannon Oliver, Sarah Ziman, Sophie Anderson, Taylor Edmonds

Mae Ac Rwy’n Clywed Dreigiau yn gasgliad o gerddi a olygwyd gan Hanan Issa, Bardd Cenedlaethol Cymru, lle mae prif thema pob cerdd yn ymwneud â dreigiau – thema addas o ystyried pa mor eiconig yw’r Ddraig Goch yng Nghymru, wrth gwrs. Ac mae geiriau Hanan yn cyfleu naws y gyfrol i’r dim: “Mae Cymru’n wlad groesawgar sy’n gartref i bob math o ddreigiau – gobeithio o fewn y tudalennau hyn y gallwch chi ddod o hyd i ddraig sy’n rhuo mor ffyrnig â’ch fflam unigryw chi’ch hun.” Yn gyntaf oll, roedd y cerddi’n unigryw. Mae yna rai doniol (Fe wnaeth ‘Fy Mam, yr ARWR’ gan Rhiannon Oliver wneud i mi chwerthin), ac mae yna rai teimladwy (roedd ‘Pry Tân’ gan Eric Ngalle Charles yn gerdd bwerus dros ben), felly mae rhywbeth at ddant pawb yn y llyfr hwn. Mae Cymru’n wlad lawn amrywiaeth a diwylliant, ac mae’r llyfr hwn yn dathlu’r hyn sy’n ein gwneud ni’n unigolion; ac er bod gan bob un ohonom ddraig y tu mewn i ni, mae ein gwahaniaethau yn gwneud i ni sefyll allan. Braint oedd cael cipolwg i ddiwylliannau eraill a’u cymharu â diwylliant Cymru; er enghraifft yng ngherdd ‘Draig Lung’ gan Angela Hui, mae hi’n sôn am “D[d]au ddiwylliant hynafol. Cymru a Tsieina. Y Cymoedd a Hong Kong”, a cheir cyfle hyd yn oed i ddysgu geiriau ac ymadroddion newydd (mae “Abuji” yn air am “dad-cu” yn ôl y gerdd ‘Mae Ymladd Tanau yn dy Waed’ gan Hafsa Ajadi). Rwy’n teimlo ei bod hi’n bwysig dysgu rhywbeth ar ôl darllen. Roedd y lluniau a ddyluniwyd gan Eric Heyman, a gafodd eu cynnwys yn y llyfr yma ac acw yn ddeniadol. Roedd ychydig o ddarluniadau a gwmpasodd dudalen gyfan, e.e. ar ddiwedd cerdd ‘Y Ddraig yn fy Mhoced’ gan Emma Smith-Barton, ond roedd llawer o’r lluniau yn llai eu maint, ac rwy’n teimlo eu bod nhw’n ychwanegu rhywbeth mwy i’r cerddi. Wrth edrych ar y cyfieithiadau Cymraeg o rai o’r cerddi, mae’n dipyn o gamp i gyfleu’r un naws a neges mewn ffordd mor greadigol, ond mae’r cerddi – a’u cyfieithiadau – yn hyfryd! Mae Hanan Issa yn dweud yn y rhagair ei bod hi am rannu barddoniaeth â “chynulleidfa newydd o bobl ifanc sydd wrth eu bodd yn darllen”, ac er bod y nod hwnnw wedi’i gyflawni, dyma flodeugerdd y gall pobl o bob oedran ei mwynhau.

ISBN: 9781915444745

Dimensions: unknown

Weight: unknown

126 pages