Alan Llwyd Author

Fel bardd a llenor, mae'r Prifardd Alan Llwyd wedi cyhoeddi dros 80 o lyfrau, gan gynnwys tri chasgliad cyflawn o gerddi. Enillodd Gategori Ffeithiol-greadigol Llyfr y Flwyddyn yn 2013 a 2020, a chategori Barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn yn 2019. Yn 2018, enillodd Dlws Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru am gyfraniad arbennig i’r byd cyhoeddi. Y mae wedi ennill dros 50 o wobrau llenyddol hyd yn hyn. Cyhoeddwyd ei gasgliad diwethaf o gerddi, Cyfnos, ym mis Chwefror 2023.