Barddas Author

O Lundain yn wreiddiol, hyfforddodd Jo fel pianydd gan fynychu’r Academi Frenhinol yn ifanc, cyn graddio mewn cerddoriaeth o Goleg y Brenin, Llundain. Dechreuodd ddysgu Cymraeg tua diwedd 2018, ac ers 2021, mae hi wedi bod wrthi’n barddoni. Mae’n aelod o dîm Talwrn Y Derwyddon, ac Ysgol Farddol Caerfyrddin, yn ogystal â bod yn gydlynydd Bardd y Mis. Mae ei cherddi wedi’u cyhoeddi yng nghylchgrawn Barddas, Ffosfforws 2-6 (Cyhoeddiadau’r Stamp) a MODRON 4. Cafodd ei phamffled, Cân y Croesi, ei gyhoeddi yn 2024 gan Gyhoeddiadau’r Stamp a’i chyfrol gyntaf, Chwarter Eiliad, ei gyhoeddi gan Gyhoeddiadau Barddas yn 2025.