Haf Llewelyn Author & Translator

Magwyd Haf Llewelyn ar fferm fynyddig yn Ardudwy ond mae’n byw yn Llanuwchllyn ers bron i ddeng mlynedd ar hugain bellach. Mae’n awdures nofelau i oedolion ac i blant – enillodd Diffodd y Sêr gwobr Tir na n-Og yn 2014. Mae hefyd yn barddoni. Mae James Munro wedi bod yn darlunio ers iddo gallu dal pensil. Ers hynny, mae e wedi darlunio llyfrau, cylchgronau, ffilmiau ac animeiddiadau. Mae e’n byw yn Lerpwl gyda’i pensiliau a’i inc.