Hywel Griffiths Author & Editor

O Sir Gaerfyrddin y daw Hywel Griffiths yn wreiddiol ond mae'n byw yn Aberystwyth ers sawl blwyddyn bellach. Mae’n ddarlithydd yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth ac yn aelod o Dîm y Glêr ar y Talwrn. Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod yn 2015, a chyn hynny, enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 2008. Enillodd ei gyfrol ddiwethaf o farddoniaeth, Llif Coch Awst, wobr y categori barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn yn 2018.