Jim Parc Nest Author

Yn wreiddiol o Gastellnewydd Emlyn, mae Jim Parc Nest bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd. Mae’n gyn-Archdderwydd ac wedi ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith; y tro cyntaf yn Eisteddfod Sir y Fflint yn 2007 a’r eildro yn Eisteddfod Genedlaethol Conwy, 2019. Mae hefyd wedi ennill Coron yr Eisteddfod ddwywaith, yn Abergwaun yn 1986 a Chasnewydd yn 1988. Mae'n Brifardd cyhoeddedig ac yn ddramodydd llwyfan, radio a theledu. Jim yw awdur Dan y Wenallt, ei gyfieithiad o Under Milk Wood gan Dylan Thomas. Yn 2014 cyhoeddodd gyfrol ffeithiol-greadigol yn rhan o Gyfres Llenorion Cymru (Cyhoeddiadau Barddas) am ei fywyd fel un o lenorion amlycaf Cymru.