Máire Zepf Author

Mae Máire Zepf wedi ysgrifennu 12 o lyfrau i blant, o lyfrau lluniau i nofel penillion Oedolion Ifanc. Enillydd KPMG Children’s Book of the Year, gwobr Réics Carló a White Raven yn 2020, mae ei llyfrau wedi eu cyfieithu i 8 iaith. Yr awdur o County Down oedd y Cymrawd Ysgrifennu Plant cyntaf ar gyfer Gogledd Iwerddon, wedi ei lleoli yng nghanolfan Seamus Heaney Centre for Poetry yn QUB (2017-19). Hi yw Cyfarwyddwr Artistig Quotidian – Word on the Street. Mae Andrew Whitson yn ddarlunydd arobryn ac yn frodor o Belfast sy’n hoffi cael ei alw’n Mr Ando! Mae’n byw mewn hen dþ sy’n swatio ar ochr bryn niwlog; ar ymyl coedwig hud, islaw castell swynol yng nghysgod trwyn cawr. Mae ei dþ yn edrych i lawr dros Harbwr Belfast lle cafodd y Titanic ei adeiladu ac i fyny at ‘Belfast Cavehill’ lle bu i awyren fomio Americanaidd ‘B-17 Flying Fortress’ gwympo yn ystod yr Ail Ryfel Byd! Mae Mr Ando wedi darlunio dros ugain o lyfrau o dan ei enw ei hun, y mwyaf diweddar ohonynt yw cyfres Mali gyda Malachy Doyle a chyfres llyfrau lluniau arobryn Rita gyda Máire Zepf.