Thomas Pennant

Cysylltiadau Cymreig

Ffion Mair Jones author

Format:Paperback

Publisher:University of Wales Press

Published:15th Aug '25

Currently unavailable, and unfortunately no date known when it will be back

Thomas Pennant cover

Ar drothwy trichanmlwyddiant ei enedigaeth, mae'r gyfrol hon yn cyflwyno’r astudiaeth lawn gyntaf o Thomas Pennant, y naturiaethwr a'r teithiwr o Sir y Fflint, ar gyfer cynulleidfa Gymraeg ei hiaith. Er gwaethaf ei fri rhyngwladol yn ei ddydd, esgeuluswyd Pennant yn ddiweddarach gan ei gydwladwyr mewn cof niwlog fel ‘teithiwr’. Cynigir yma ddarlun mwy cymhleth sy’n cydnabod ei le fel un o feddylwyr polymathig yr Oleuedigaeth, â’i ddiddordebau’n rhychwantu byd natur, celf a hynafiaethau. Edrychir ar y Cymry allweddol a ddylanwadodd ar ei waith – o Forrisiaid Môn, sylfaenwyr Cymdeithas y Cymmrodorion, hyd at John Lloyd, rheithor rhadlon Caerwys, a’r artist Moses Griffith o Ben Llŷn. Wrth bendroni sut y ciliodd Pennant o olwg ei gyd-Gymry, ystyrir argyfwng adroddiad y Llyfrau Gleision a’r wleidyddiaeth ieithyddol a ddaeth yn ei sgil, cyn ymddangosiad cyfieithiad llawn yn y Gymraeg o’r Teithiau yng Nghymru, ganrif wedi marwolaeth yr awdur. Mae'r gwaith hwn wedi'i drwyddedu dan y Drwydded Ryngwladol Creative Commons Attribution-NonCommercial-NoDerivatives 4.0. I weld copi o'r drwydded hon, ewch i: http://creativecommons.org/licenses/bync-nd/4.0/ neu anfonwch lythyr at Creative Commons, PO Box 1866, Mountain View, CA 94042, UDA.

ISBN: 9781837722914

Dimensions: unknown

Weight: unknown

400 pages