Treiglo

Gwyneth Lewis author

Format:Hardback

Publisher:Cyhoeddiadau Barddas

Published:17th Oct '17

Should be back in stock very soon

Treiglo cover

Gwyneth Lewis's new volume of poems is full of wit, intensity and satire, as she reflects on the special relationship between a daughter and her father.

Mae'r gyfrol 'Treiglo' yn mynd a ni ar daith bywyd Gwilym Lewis o'r crud i'r bedd, yn myfyrio ar yr elfen anorfod o drawsffurfio cyson sy'n digwydd yn ystod taith oes. Treiglad amser sy'n ganolog i'r gyfrol hon sy'n ymdrin a galar mewn ffordd ddychmygus, amrwd a chwareus. Er bod iaith, pobl a pherthynas yn trawsffurfio eu hunain, y treiglad mwyaf yw marwolaeth, ac mae’r gyfrol yn dangos y newidiadau bychain mewn oes o berthynas rhwng tad a merch sy’n rhan o’r trawsnewid olaf wrth iddi hi ei wylio’n marw. -- Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas
Mae unrhyw gyfrol o farddoniaeth o law Gwyneth Lewis yn ddigwyddiad o bwys. A hynny am y gwyddoch y bydd y cerddi hyn yn wahanol iawn i unrhyw gerddi eraill a ddarllenwch yn Gymraeg. Bu’r ffaith iddi ganolbwyntio ar y gair ‘ treiglo’ yn ddifyr ac yn sicr yn hergwd i’r puryddion iaith na welant tu hwnt i dreigladau gramadegol. Achos y mae yna, yn y gyfrol hon, arweddau amryfal o edrych ar dreiglo a phob un yn ymestyn ein dealltwriaeth o’r hyn a olyga, yn enwedig y ‘treiglo’ olaf hwnnw o farwolaeth. Cyfrol bersonol iawn yw’r gyfrol a’r cerddi yn alarus ar adegau ond yn mynegi, fel y dylai pob marwnad, fawrhad o einioes wedi ei fyw mewn modd cyfoethog. Mae cymaint o gerddi yn rhai sydd yn aros yn y cof, fel ‘ Cerddoriaeth y Meistri’ lle mae’r tad yn mynegi ei gariad at gerddoriaeth gan holi’r teulu, a’r cyweiriau gwahanol yn rhoi cliw i’r darllenydd. Ceir elfen o ddigrifwch wrth i ni ddod i adnabod cwyrcs y gwahanol gyfansoddwyr cyn y colyn tua’r diwedd wrth iddyn nhw erfyn ‘iddo ddiweddglo/ Yn arddull Bach/ llawn ffydd a rhesymeg. Bach, noddfa hawdd ei chael i’m bach’. Anodd yw dewis a dethol cerddi penodol sy’n cyffwrdd â’r darllenydd am fod y gyfrol ar ei hyd yn ymgais at ail-fyw mabinogi y dyn arbennig hwnnw a fu’n dad iddi. Cynnwys ei chwaer hefyd wrth iddynt gofio gyda’i gilydd am ei gariad, boed hynny drwy’r pethau symlaf oll fel ‘pan olchai Dad ein gwallt’, a hynny ‘Â Vosene, y sawr fel bendith’. A! Gallaf innau gofio yr union weithred honno o ddwylo tyner fy nhad innau. Felly, cerddi sy’n cerdded i lawr meingefn y darllenydd yw’r rhain, yn gwynto o asbri ieuenctid a henaint, o alar a hiraeth melys. Dangosodd y cerddi fel yr oedd modd, ie, ‘treiglo’ rhwng bychanfyd y claf a’r byd mwy anfeidrol ei ddyhead. Nodir pob manylyn gydag amseriadau ‘gwylad’ yn cael eu nodi yn glinigol bron, a hynny yn wrthbwynt yn erbyn y byd delweddol gyfoethog y mae’r bardd yn ei weld, boed yn aderyn du mewn parc neu ‘piod/ Yn cecru yn y coed’. Ceir y math o ddeialogau a gaiff pob un gydag anwylyn wedi iddo adael y byd hwn. Ond yn gymwys â’r siarad, mae atgofion tyner a dwys am weithredoedd cariadus ac angenrheidiol y sawl sy’n agosáu at ddarfod, fel y gerdd am ‘Min’ wrth iddi eillio ei thad a’r ‘Sŵn statig wrth y dur/ Gyfrif pob blewyn a’i fedi’. Dyma gyfrol sydd yn deyrnged ragorol i dad annwyl a doeth. Ond mae’n drysorfa hefyd i ddarllenwyr o bob oed, gan ddangos fel y gall barddoniaeth wneud gwahaniaeth arhosol i fywydau y rhai byw. -- Menna Elfyn @ www.gwales.com

ISBN: 9781906396947

Dimensions: unknown

Weight: unknown

72 pages